Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

ST 29

Ymchwiliad i Waith Athrawon Cyflenwi

Tystiolaeth gan : Estyn

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1 - Beth yw eich barn ar ba mor gyffredin yw'r defnydd o athrawon cyflenwi, wedi'i gynllunio a heb ei gynllunio?

 

Yn 2013, cynhaliodd Estyn arolwg thematig o effaith absenoldeb athrawon.  Ymgymerwyd â’r gwaith hwn mewn ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gorchwyl blynyddol y Gweinidog.  Ysgrifennwyd yr adroddiad mewn cydweithrediad â Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Nododd Estyn yn ei adroddiad:

Mae cyflwyno’r rheol cyflenwi’n anaml (a chytundeb y gweithlu) wedi arwain at fwy o gymhlethdod o ran darparu trefniadau cyflenwi gan fod ysgolion yn gwneud trefniadau cyflenwi yn absenoldeb athrawon nad ydynt mwyach yn cynnwys eu staff addysgu eu hunain. Yn ogystal ag athrawon cyflenwi, mae’r trefniadau hyn bellach yn cynnwys goruchwylwyr llanw a staff cymorth eraill a gyflogir mewn ysgolion nad oes ganddynt statws athro cymwys (SAC).’  Felly, pan fydd athro’n absennol, caiff gwersi eu cyflenwi gan athrawon cyflenwi ond hefyd gan oruchwylwyr a/neu gynorthwywyr addysgu llanw heb gymhwyso (heb fod â Statws Athro Cymwys). 

 

Mae’r cwestiynau ymgynghori hyn yn ymwneud ag athrawon cyflenwi, ond yn ystod ein harolygiad thematig, canfuom fod llawer o’r materion sy’n gysylltiedig â defnyddio athrawon cyflenwi yn gymwys i oruchwylwyr a chynorthwywyr addysgu hefyd.

 

Yn ein hadroddiad thematig, nododd Estyn: ‘Amcangyfrifir bod ychydig o dan 10% o’r holl wersi bellach yn cael eu cyflenwi gan staff nad y nhw yw’r athro dosbarth arferol’.  Mae’r ffigur hwn yn dynodi bod y defnydd o athro cyflenwi, goruchwyliwr llanw neu gynorthwyydd addysgu i gyflenwi pan fydd yr athro dosbarth arferol yn absennol yn fater arwyddocaol mewn ysgolion yng Nghymru yn gyffredinol, er bod difrifoldeb a chymhlethdod y mater yn amrywio o ysgol i ysgol.  At ei gilydd, mae arolygwyr yn adrodd bod defnydd uwch na’r cyfartaledd o athrawon cyflenwi mewn ysgolion uwchradd mewn ardaloedd mwy difreintiedig, lle mae penaethiaid yn cael anhawster recriwtio athrawon, yn enwedig athrawon mathemateg a ffiseg.  Yn aml, mae gan ysgolion sydd mewn categori gweithgarwch dilynol statudol (gwelliant sylweddol neu fesurau arbennig) gyfran uwch o wersi yn cael eu cyflenwi gan athrawon cyflenwi a goruchwylwyr llanw.

 

Adroddodd Estyn: ‘Mae ychydig o ysgolion, yn enwedig ysgolion Cymraeg a’r ysgolion hynny sydd mewn ardaloedd gwledig neu ardaloedd dan anfantais economaidd, yn cael anhawster dod o hyd i athrawon cyflenwi addas. Mae’r mwyafrif o ysgolion uwchradd yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i athrawon pynciau prinder, fel mathemateg a ffiseg’.

 

Os ydych o'r farn bod hyn yn arwain at broblemau (er enghraifft, ar gyfer ysgolion, disgyblion neu athrawon), sut y gellir eu datrys?

 

Mae llawer o’r materion sy’n arwain at fynychter athrawon cyflenwi yn gymhleth ac ni ellir eu datrys yn gyflym.  Mae’r materion yn cynnwys y canlynol:

·         anhawster o ran recriwtio staff mewn meysydd pwnc allweddol, yn arbennig, mathemateg, ffiseg a Saesneg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg;

·         lefelau uchel o absenoldeb staff mewn ysgolion lle mae’r arweinyddiaeth yn llai effeithiol;

·         lefelau uwch o absenoldeb staff mewn ysgolion lle mae ymddygiad lleiafrif o ddisgyblion yn broblematig;

·         absenoldeb tymor hir mewn ysgolion cynradd; ac

·         anhawster o ran recriwtio penaethiaid a dirprwy benaethiaid mewn ysgolion gwledig bach.

 

Cynhwysodd Estyn yr argymhellion canlynol yn ei atodiad yn 2013:

Dylai ysgolion:

·        A1 reoli absenoldeb athrawon yn fwy effeithlon;

·        A2 gwella ansawdd yr addysgu a’r dysgu mewn gwersi a gyflenwir, drwy wneud yn siwr bod y gwaith a osodir ar lefel briodol a bod y staff yn cael digon o wybodaeth am anghenion unigol y dysgwyr;

·        A3 cynorthwyo staff cyflenwi a staff llanw i wella’u technegau rheoli ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth;

·        A4 arfarnu effaith absenoldeb athrawon ar ddysgwyr, yn enwedig y disgyblion mwy galluog a’r rhai yng nghyfnod allweddol 3, a monitro ansawdd yr addysgu a’r dysgu pan fydd athrawon yn absennol;

·        A5 sicrhau bod staff cyflenwi yn cael eu cynnwys mewn trefniadau rheoli perfformiad;

·        A6 cynnig mwy o gyfleoedd datblygiad proffesiynol i staff cyflenwi; a

·         A7 gwneud yn siwr bod staff cyflenwi yn cael gwybodaeth hanfodol am iechyd a diogelwch a diogelu, gan gynnwys manylion cyswllt y swyddog amddiffyn plant enwebedig yn yr ysgol.

Dylai awdurdodau lleol ac asiantaethau cyflenwi:

·        A8 ddarparu data cymharol ar gyfraddau absenoldeb athrawon i ysgolion; a

·         A9 gofyn am adborth ar ansawdd staff cyflenwi y maent yn eu cofrestru, a’i gofnodi, a defnyddio’r wybodaeth hon at ddibenion rheoli ansawdd.

Dylai Llywodraeth Cymru:

·         A10 ddarparu gwell mynediad i staff cyflenwi at y rhaglenni hyfforddi cenedlaethol hynny sydd ar gael i athrawon mewn swyddi parhaol.

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§     

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§    X

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§     

4 - Nid yw'n broblem.

§     


 

Cwestiwn 2 - Beth yw eich barn ar yr amgylchiadau pan ddefnyddir athrawon cyflenwi? Er enghraifft: y math o ddosbarthiadau maent yn dysgu; y math o weithgareddau dysgu sy'n digwydd dan oruchwyliaeth athrawon cyflenwi; a ydynt yn gymwys i addysgu pynciau perthnasol.

 

 

Yn ei adroddiad yn 2013, adroddodd Estyn: ‘Mae effaith negyddol fwyaf absenoldeb athrawon ar ddysgu disgyblion yn digwydd mewn ysgolion uwchradd. Nid yw staff cyflenwi nad ydynt yn gweithio yn yr ysgol fel arfer yn gwybod beth yw anghenion y dysgwyr gystal â’u hathrawon dosbarth arferol, ac mae’r gwaith a osodir yn rhy hawdd yn aml ac nid yw’n diddori’r dysgwyr.  Mae hyn yn arbennig o wir yng nghyfnod allweddol 3, gan y bydd ysgolion yn aml yn gwneud ymdrech i sicrhau trefniadau gwell ar gyfer dosbarthiadau arholiadau. Yn aml, ni fydd ysgolion uwchradd yn gwneud trefniadau cyflenwi ar gyfer gwersi’r chweched dosbarth yn ystod absenoldebau tymor byr, ond byddant yn dal i fyny â gwaith a gollwyd nes ymlaen.  Efallai y byddant hefyd yn ailddefnyddio athrawon pwnc o ddosbarthiadau cyfnod allweddol 3 i gyflenwi dros gyfnod allweddol 4, gan adael staff cyflenwi i lanw nifer anghymesur o wersi cyfnod allweddol 3.’

 

‘Bydd y tarfu mwyaf mewn ysgolion cynradd yn digwydd o ganlyniad i ddiffyg strategaeth i leihau effaith absenoldebau athrawon heb eu cynllunio, ond absenoldebau a allai fod yn rhai hirdymor. Mewn sefyllfaoedd cymhleth, fel y rhai sy’n deillio o staff yn cael eu hatal neu salwch staff mynych ond heb fod yn ddi-dor, nid yw ysgolion yn rheoli nac yn arfarnu effaith cael nifer o staff yn cyflenwi ar gyfer yr un grŵp blwyddyn. Yn rhy aml, mae hyn yn effeithio ar ymddygiad y disgyblion yn ogystal â’u dysgu.’

 

 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

 

 

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

 

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§     

 

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§    X

 

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§     

 

4 - Nid yw'n broblem.

§     

 

Cwestiwn 3 - Beth yw eich barn ar effaith y defnydd o athrawon cyflenwi ar ganlyniadau disgyblion (gan gynnwys unrhyw effaith ar ymddygiad disgyblion)?

 

 

Canfu adroddiad Estyn: ‘Oherwydd natur tymor byr eu gwaith, mae’n anodd i staff cyflenwi sefydlu perthynas weithio effeithiol gyda dysgwyr.  Nid oes gan ddysgwyr yr un parch yn aml at staff cyflenwi ag sydd ganddynt at eu hathrawon arferol.’

 

Nid yw’r rhan fwyaf o ddysgwyr mewn ysgolion uwchradd yn teimlo eu bod yn gwneud digon o gynnydd mewn gwersi pan fydd eu hathro arferol yn absennol.  Y rheswm am hyn yn aml yw nad yw’r gwersi sy’n cael eu cyflenwi yn hoelio sylw pob un o’r dysgwyr yn ddigon da, neu nid yw’r athro cyflenwi yn gwybod beth yw anghenion y grŵp gystal â’r athro arferol.  Yn aml, mae’r gwaith sy’n cael ei adael gan yr athro neu’r gwaith a drefnir ar fyr rybudd gan y pennaeth adran yn hawdd, ac mewn lleiafrif o achosion, mae’n cynnwys gweithgareddau fel gwylio fideo, cwblhau chwileiriau neu groeseiriau, a chynhyrchu posteri.’

 

Mae effaith negyddol absenoldeb athrawon yn fwy yn aml mewn rhai pynciau, fel ieithoedd tramor modern, Cymraeg ail iaith, addysg gorfforol a dylunio a thechnoleg.  Y rheswm am hyn yw bod staff nad ydynt yn arbenigwyr yn cyflenwi yn ystod y gwersi yn aml, ac nid yw dysgwyr yn gallu ymgymryd â gweithgareddau ymarferol.  Ni fydd yr athrawon neu’r goruchwylwyr llanw sy’n cyflenwi yn y wers Cymraeg ail iaith yn meddu ar y medrau iaith penodol i bwnc i gefnogi a datblygu’u dysgu.  Yn aml, bydd dysgwyr yn cael eu symud i ystafelloedd dosbarth eraill pan fydd eu hathro yn absennol, ac o ganlyniad ni fyddant yn gallu defnyddio’r adnoddau a fyddai ar gael iddynt fel arfer.  Mae symud o ddosbarth i ddosbarth yn rhoi’r argraff hefyd fod y wers yn llai pwysig i’r athro a’r disgybl.  Yn y mwyafrif o achosion, mae’r dysgwyr yn nodi bod athrawon cyflenwi neu oruchwylwyr llanw yn tueddu gofyn iddynt ysgrifennu ar ddalennau o bapur yn hytrach nag yn eu gweithlyfrau arferol, ac yn y rhan fwyaf o achosion, ni chaiff y gwaith ei farcio ac nid eir ar ei drywydd. Gweithgaredd llenwi amser yw hwn yn hytrach na dysgu go iawn.’

 

O ganlyniad i’r gwaith anymestynnol hwn, mae dysgwyr yn dangos ymddygiad sy’n fwy heriol.  Maent yn fwy tebygol o darfu ar lefel isel, a chaiff hyn effaith negyddol bellach ar eu cyflawniad a’u cynnydd mewn gwersi.  Dywed bron pob un o’r disgyblion a gymerodd ran yn ein harolwg nad ydynt yn ymddwyn gystal mewn dosbarth gydag athro cyflenwi neu oruchwyliwr llanw o’i gymharu â’u hathro arferol.  Mae dysgwyr ysgolion uwchradd ar draws yr ystod gallu yn aml yn dangos agweddau negyddol tuag at athrawon cyflenwi a goruchwylwyr llanw nad ydynt yn cael eu cyflogi gan yr ysgol. Mae hyn golygu yn aml fod disgyblion yn gwneud llai o gynnydd yn y gwersi hyn ac mae eu dysgu’n fwy cyfyngedig. Mae eu hagweddau’n fwy cadarnhaol tuag at athrawon amser llawn sy’n gwneud gwaith cyflenwi, neu oruchwylwyr llanw a gyflogir yn uniongyrchol gan yr ysgol.’

 

 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

 

 

Gweler yr ymateb i Gwestiwn 1

 

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

 

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§    X

 

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§     

 

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§     

 

4 - Nid yw'n broblem.

§     

 

Cwestiwn 4 - Beth yw eich barn ar Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus athrawon cyflenwi ac effaith bosibl y Model Dysgu Proffesiynol Cenedlaethol?

 

 

Nododd Estyn fod cymorth i staff cyflenwi yn amrywiol ond at ei gilydd, nad yw staff cyflenwi yn cael digon o hyfforddiant a datblygiad.  Mae’r mwyafrif o athrawon cyflenwi a goruchwylwyr llanw yn cael rhywfaint o hyfforddiant, er bod ffocws cymharol gul i hyn ac nid yw’n bodloni pob un o’u hanghenion.  Mae’r hyfforddiant hwn fel arfer yn canolbwyntio’n benodol ar ddelio ag ymddygiad heriol ac ar fedrau addysgu cyffredinol, ond nid yw’n cynnwys fawr ddim am flaenoriaethau neu fentrau cenedlaethol. 

 

‘Dywed bron pob un o’r athrawon cyflenwi a’r goruchwylwyr llanw y byddent yn hoffi gwell mynediad i ystod ehangach o weithgareddau datblygiad proffesiynol.  Yn wahanol i’r rhan fwyaf o athrawon, nid yw datblygiad proffesiynol athrawon cyflenwi yn cael cefnogaeth dda gan eu cyflogwr, hyd yn oed os byddant wedi llofnodi contract a’u bod yn cael eu cyflogi gan asiantaeth gyflenwi.  Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn gallu trefnu eu hyfforddiant eu hunain neu fynychu cyrsiau a gynigir gan gwmnïau preifat, er y byddai hyn yn golygu colli cyflog diwrnod. Teimlant eu bod yn colli allan ar gyfleoedd sy’n cael eu cynnig i gydweithwyr â chontractau parhaol. 

 

Mae athrawon cyflenwi sydd wedi ymuno â’r proffesiwn yn ddiweddar yn teimlo dan anfantais arbennig am nad ydynt bob amser yn gallu cwblhau eu cyfnod sefydlu ANG.  Os cânt eu cyflogi am o leiaf 0.4 ar gyfer tymor cyfan, gallant ymuno â’r rhaglen meistri mewn addysg a gyflwynwyd yn ddiweddar.  Er hynny, gall eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o bolisïau a blaenoriaethau cenedlaethol ddirywio dros gyfnod, gan ei gwneud yn anoddach iddynt sicrhau swydd barhaol. Teimla’r athrawon newydd gymhwyso hyn y byddant yn mynd yn llai cystadleuol yn y farchnad ar gyfer swyddi addysgu amser llawn.

 

Mae’r rhan fwyaf o oruchwylwyr llanw a CALUau a gyflogir yn uniongyrchol gan ysgolion yn cael hyfforddiant fel rhan o raglen hyfforddi fewnol flynyddol eu hysgol.  Mae’r hyfforddiant hwn yn canolbwyntio ar ystod o destunau sy’n berthnasol i athrawon dosbarth a staff cymorth eraill.  Mae mwyafrif o oruchwylwyr llanw a CALUau mewn ysgolion cynradd yn cael hyfforddiant ychwanegol hefyd fel rhan o drefniadau rheoli perfformiad yr ysgol.  Fodd bynnag, nid yw’r mwyafrif o oruchwylwyr llanw mewn ysgolion uwchradd yn cymryd rhan mewn trefniadau rheoli perfformiad ffurfiol, er y dywed y rhan fwyaf ohonynt y byddent yn ei groesawu.’

 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

 

 

Gweler yr ymateb i Gwestiwn 1.

 

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

 

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§     

 

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§    X

 

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§     

 

4 - Nid yw'n broblem.

 

 

Cwestiwn 5 - Beth yw eich barn ar drefniadau rheoli perfformiad ar gyfer athrawon cyflenwi?

 

 

Mae llawer o ysgolion cynradd yn cyflogi CALUau fel goruchwylwyr llanw i gyflenwi pan fydd athrawon yn cael amser CPA statudol neu i gyflenwi pan fydd yr athro yn absennol am resymau eraill.  Mae rolau a chyfrifoldebau goruchwylwyr llanw, CALUau ac athrawon cyflenwi yn amrywio gormod o fewn ysgolion a rhwng ysgolion.  Mae’r rhan fwyaf o CALUau yn cael eu cynnwys yn nhrefniadau rheoli perfformiad ysgolion ac mae ganddynt amcanion rheoli perfformiad addas, ond mae natur eu gwaith a’u swydd-ddisgrifiadau yn amrywio’n sylweddol o fewn ysgolion a rhwng ysgolion a chaiff hyn effaith ar ddysgwyr a faint o gynnydd y maent yn ei wneud pan fydd eu hathro arferol yn absennol.

 

Fodd bynnag, yn arolwg 2013, nododd Estyn ‘Nid yw’r rhan fwyaf o ysgolion yn darparu digon o adborth i athrawon cyflenwi. Weithiau, bydd ysgolion yn rhannu adborth gyda’r asiantaeth gyflenwi, ond mae ansawdd yr adborth hwn yn amrywio gormod, ac nid yw’n ddigon cadarn yn aml.  Bydd ychydig o asiantaethau yn cysylltu ag ysgolion ar ddiwedd pob wythnos i drafod perfformiad staff cyflenwi, er mai ychydig iawn o wybodaeth a gaiff ei chofnodi’n ffurfiol gan yr ysgol. Mae’r adborth yn fanylach pan fydd pryderon ynghylch yr addysgu neu reolaeth yn yr ystafell ddosbarth, ac felly mae’r adborth i athrawon cyflenwi yn tueddu canolbwyntio ar yr agweddau negyddol ar eu gwaith.  Nid yw awdurdodau lleol sy’n darparu rhestrau o athrawon cyflenwi yn gofyn am adborth ar berfformiad.

 

Mae bron pob ysgol ar brydiau wedi codi pryderon ynghylch ansawdd ychydig o athrawon cyflenwi.  Mae llawer o ysgolion wedi gorfod gofyn i athro cyflenwi neu oruchwyliwr llanw adael yr ysgol cyn terfyn amser eu contract oherwydd perfformiad anfoddhaol.  Nid oes unrhyw drefniadau i asiantaethau cyflenwi rannu’r wybodaeth hon gyda Llywodraeth Cymru na CyngACC oni bai bod perfformiad yn destun pryder sylweddol.’

 

‘Nid yw’r mwyafrif o oruchwylwyr llanw mewn ysgolion uwchradd yn cymryd rhan mewn trefniadau rheoli perfformiad ffurfiol, er y dywed y rhan fwyaf ohonynt y byddent yn ei groesawu.’

 

 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

 

 

Gweler y sylwadau yn ymwneud â Chwestiwn 1.

 

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

 

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§     

 

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§    X

 

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§     

 

4 - Nid yw'n broblem.

§     

 

Cwestiwn 6 - A ydych o'r farn bod gan awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol ddigon o oruchwyliaeth dros y defnydd o athrawon cyflenwi?

 

 

Mae rôl awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol o ran caffael, monitro a hyfforddi athrawon cyflenwi yn amrywio gryn dipyn, ond yn gyffredinol mae’n annigonol ac mae’r trefniadau presennol yn aneffeithiol.

 

Nododd Estyn yn ei adroddiad yn 2013 ‘Mae gan awdurdodau lleol ar hyd a lled Cymru drefniadau gwahanol ar gyfer caffael a darparu athrawon cyflenwi i ysgolion.  Mae’r mwyafrif ohonynt yn darparu rhestr i ysgolion o athrawon cyflenwi sy’n gymwys i weithio yn yr awdurdod, ac sydd wedi cael eu harchwiliad cyn-cyflogi eu hunain. Weithiau, bydd y gwaith o ddarparu’r rhestr hon yn cael ei roi i asiantaethau recriwtio.  Mae lleiafrif o awdurdodau lleol eraill yn cysylltu ag asiantaethau cyflenwi i ddarparu i ysgolion restr o athrawon cyflenwi neu oruchwylwyr llanw sy’n gymwys i weithio yn yr awdurdod lleol.

 

 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

 

 

 

 

 

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§     

 

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§    X

 

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§     

 

4 - Nid yw'n broblem.

§     

 

Cwestiwn 7 - A ydych yn ymwybodol o unrhyw amrywiaeth leol a rhanbarthol yn y defnydd o athrawon cyflenwi? Os felly, a oes rhesymau am hynny?

 

 

Yn adroddiad Estyn yn 2013, nodwyd y canlynol: ‘Mae gan awdurdodau lleol ar hyd a lled Cymru drefniadau gwahanol ar gyfer caffael a darparu athrawon cyflenwi i ysgolion.  Mae’r mwyafrif ohonynt yn darparu rhestr i ysgolion o athrawon cyflenwi sy’n gymwys i weithio yn yr awdurdod, ac sydd wedi cael eu harchwiliad cyn-cyflogi eu hunain. Weithiau, bydd y gwaith o ddarparu’r rhestr hon yn cael ei roi i asiantaethau recriwtio.  Mae lleiafrif o awdurdodau lleol eraill yn cysylltu ag asiantaethau cyflenwi i ddarparu i ysgolion restr o athrawon cyflenwi neu oruchwylwyr llanw sy’n gymwys i weithio yn yr awdurdod lleol.’

 

Gan fod ysgolion yn defnyddio staff heblaw am athrawon cyflenwi i gyflenwi yn ystod absenoldeb athrawon a bod awdurdodau lleol yn cadw mathau a meintiau gwahanol o ddata am y defnydd o athrawon cyflenwi, nid ydym yn gallu rhoi ymateb manylach.  Fodd bynnag, mae llawer o’n sylwadau a amlinellwyd yn yr ymateb i Gwestiwn 1 hefyd yn berthnasol i’r cwestiwn penodol hwn.

 

 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

 

 

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

 

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§     

 

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§    X

 

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§     

 

4 - Nid yw'n broblem.

§     

 

Cwestiwn 8 - A oes gennych unrhyw farn ar asiantaethau cyflenwi a'u trefniadau sicrhau ansawdd?

 

 

Canfu ein harolwg ‘Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn ffafrio un asiantaeth athrawon cyflenwi a defnyddiant y pris isaf fel y ffactor penderfynu, yn hytrach nag ansawdd.  Mae’n well gan ychydig o ysgolion beidio â defnyddio asiantaethau cyflenwi, ac mae eu hawdurdod lleol wedi cynghori ychydig iawn o ysgolion i beidio â defnyddio asiantaethau cyflenwi.  Mae deunaw o awdurdodau lleol a phump o golegau addysg bellach a chyrff cyhoeddus eraill wedi llofnodi cytundeb ‘Gwerth Cymru’ ar gyfer gwaith cyflenwi.  New Directions Education, sef cwmni cyfyngedig preifat, a enillodd y contract ar gyfer gogledd a de Cymru. Fodd bynnag, nid oes gorfodaeth ar ysgolion i ddefnyddio’r contract i gaffael gwasanaeth cyflenwi.

 

Mae ychydig o ysgolion, yn enwedig y rhai sy’n defnyddio asiantaethau cyflenwi yn Lloegr, wedi canfod, pan fydd yr athro cyflenwi wedi cyrraedd yr ysgol, nad yw wedi cofrestru gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC) ac na allant addysgu yng Nghymru.  Mae hyn wedi dod yn amlwg pan fo staff wedi gwirio dogfennau cofrestru CyngACC.  Yn yr achosion hyn, nid yw’r athro cyflenwi neu’r goruchwyliwr llanw wedi gallu ymgymryd â’r gwaith cyflenwi yn yr ysgol’.

 

‘Nid yw’r rhan fwyaf o ysgolion yn darparu digon o adborth i athrawon cyflenwi. Weithiau, bydd ysgolion yn rhannu adborth gyda’r asiantaeth gyflenwi, ond mae ansawdd yr adborth hwn yn amrywio gormod, ac nid yw’n ddigon cadarn yn aml.  Bydd ychydig o asiantaethau yn cysylltu ag ysgolion ar ddiwedd pob wythnos i drafod perfformiad staff cyflenwi, er mai ychydig iawn o wybodaeth a gaiff ei chofnodi’n ffurfiol gan yr ysgol.  Mae’r adborth yn fanylach pan fydd pryderon ynghylch yr addysgu neu reolaeth yn yr ystafell ddosbarth, ac felly mae’r adborth i athrawon cyflenwi yn tueddu canolbwyntio ar yr agweddau negyddol ar eu gwaith.  Nid yw awdurdodau lleol sy’n darparu rhestrau o athrawon cyflenwi yn gofyn am adborth ar berfformiad.

 

 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

 

 

Gweler ymateb Estyn i Gwestiwn 1.

 

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

 

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§     

 

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§    X

 

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§     

 

4 - Nid yw'n broblem.

§     

 

Cwestiwn 9 - A ydych yn ymwybodol o unrhyw faterion penodol yn ymwneud ag addysg cyfrwng Cymraeg? Os felly, beth ydynt?

 

 

Nododd Estyn ‘Mae effaith negyddol absenoldeb athrawon yn fwy yn aml mewn rhai pynciau, fel ieithoedd tramor modern, Cymraeg ail iaith, addysg gorfforol a dylunio a thechnoleg.  Y rheswm am hyn yw bod staff nad ydynt yn arbenigwyr yn cyflenwi yn ystod y gwersi yn aml, ac nid yw dysgwyr yn gallu ymgymryd â gweithgareddau ymarferol.  Ni fydd yr athrawon neu’r goruchwylwyr llanw sy’n cyflenwi yn y wers Cymraeg ail iaith yn meddu ar y medrau iaith penodol i bwnc i gefnogi a datblygu’u dysgu.  Yn aml, bydd dysgwyr yn cael eu symud i ystafelloedd dosbarth eraill pan fydd eu hathro yn absennol, ac o ganlyniad ni fyddant yn gallu defnyddio’r adnoddau a fyddai ar gael iddynt fel arfer.  Mae symud o ddosbarth i ddosbarth yn rhoi’r argraff hefyd fod y wers yn llai pwysig i’r athro a’r disgybl.  Yn y mwyafrif o achosion, mae’r dysgwyr yn nodi bod athrawon cyflenwi neu oruchwylwyr llanw yn tueddu gofyn iddynt ysgrifennu ar ddalennau o bapur yn hytrach nag yn eu gweithlyfrau arferol, ac yn y rhan fwyaf o achosion, ni chaiff y gwaith ei farcio ac nid eir ar ei drywydd. Gweithgaredd llenwi amser yw hwn yn hytrach na dysgu go iawn.’

 

Adroddom hefyd ‘Pan fydd athrawon yn absennol am gyfnod amser sylweddol (mwy na dau neu dri diwrnod), bydd llawer o ysgolion yn gwneud cryn ymdrechion i ddod o hyd i athrawon â’r medrau pwnc perthnasol neu fedrau sy’n benodol i gyfnod.  Mae ysgolion uwchradd yn cael anhawster mawr yn aml yn dod o hyd i athrawon pynciau prinder, fel mathemateg a gwyddoniaeth.  Pan na fydd ysgolion uwchradd yn gallu dod o hyd i athrawon cyflenwi pwnc arbenigol, bydd ychydig o arweinwyr pwnc yn aildrefnu grwpiau addysgu fel bod athrawon arbenigol yn addysgu dosbarthiadau arholiadau.  Gwaethygir y broblem hon pan nad yw’r nifer lawn o athrawon arbenigol gan adrannau’n barod.  Ysgolion Cymraeg a’r ysgolion hynny sydd mewn ardaloedd gwledig neu ardaloedd dan anfantais economaidd sy’n cael yr anhawster mwyaf dod o hyd i athrawon cyflenwi addas, yn enwedig pan fydd angen athrawon arnynt hefyd sydd ag arbenigedd mewn pynciau prinder.

 

 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

 

 

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

 

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§     

 

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§    X

 

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§     

 

4 - Nid yw'n broblem.

§     

 

Cwestiwn 10 - Os byddai'n rhaid ichi wneud un argymhelliad i Lywodraeth Cymru o'r holl bwyntiau rydych wedi'u nodi, beth fyddai'r argymhelliad hwnnw?

 

Amlinellodd Estyn yr argymhellion a restrir isod yn ei arolwg yn 2013.  Mae Argymhelliad 10 yn ymwneud â Llywodraeth Cymru yn benodol.

 

Dylai ysgolion:

·        A1 reoli absenoldeb athrawon yn fwy effeithlon;

·        A2 gwella ansawdd yr addysgu a’r dysgu mewn gwersi a gyflenwir, drwy wneud yn siwr bod y gwaith a osodir ar lefel briodol a bod y staff yn cael digon o wybodaeth am anghenion unigol y dysgwyr;

·        A3 cynorthwyo staff cyflenwi a staff llanw i wella’u technegau rheoli ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth;

·        A4 arfarnu effaith absenoldeb athrawon ar ddysgwyr, yn enwedig y disgyblion mwy galluog a’r rhai yng nghyfnod allweddol 3, a monitro ansawdd yr addysgu a’r dysgu pan fydd athrawon yn absennol;

·        A5 sicrhau bod staff cyflenwi yn cael eu cynnwys mewn trefniadau rheoli perfformiad;

·        A6 cynnig mwy o gyfleoedd datblygiad proffesiynol i staff cyflenwi; a

·         A7 gwneud yn siwr bod staff cyflenwi yn cael gwybodaeth hanfodol am iechyd a diogelwch a diogelu, gan gynnwys manylion cyswllt y swyddog amddiffyn plant enwebedig yn yr ysgol.

Dylai awdurdodau lleol ac asiantaethau cyflenwi:

·        A8 ddarparu data cymharol ar gyfraddau absenoldeb athrawon i ysgolion; a

·         A9 gofyn am adborth ar ansawdd staff cyflenwi y maent yn eu cofrestru, a’i gofnodi, a defnyddio’r wybodaeth hon at ddibenion rheoli ansawdd.

Dylai Llywodraeth Cymru:

·         A10 ddarparu gwell mynediad i staff cyflenwi at y rhaglenni hyfforddi cenedlaethol hynny sydd ar gael i athrawon mewn swyddi parhaol.

 

Cwestiwn 11 - A oes gennych unrhyw sylwadau neu faterion eraill yr hoffech eu codi na soniwyd amdanynt yn y cwestiynau penodol?